Malcolm Bruce
Mae ffrae wedi codi yn yr Alban tros gynyddu’r dreth ar gwmnïau olew Môr y Gogledd – yr arian sy’n talu am reoli pris petrol i yrwyr.

Fe allai rhai o ASau Llywodraeth y Glymblaid wrthryfela ac mae cynrychiolwyr y diwydiant yn dweud y bydd llai o fuddsoddi yno a niwed tymor hir.

Y penderfyniad i reoli pris petrol oedd uchafbwynt y Gyllideb ddydd Mercher, gyda’r Canghellor George Osborne, yn mynd ymhellach na’r disgwyl.

Er mwyn gwneud hynny, fe gododd y dreth ar elw cwmnïau Môr y Gogledd o 62% i 81% tra bydd pris olew yn fwy na hyn-a-hyn.

Gwrthod cefnogi

Yn awr, yn ôl papurau’r Alban, mae Malcolm Bruce, un o gyn-arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban, yn gwrthod cefnogi’r mesur.

Yn ôl y Scotsman, fe fydd rhagor o ASau’r blaid yn yr Alban yn dilyn ei esiampl ac mae Llywodraeth yr SNP yng Nghaeredin eisoes yn cymryd mantais wleidyddol o’r ddadl.

Ac mae cynrychiolwyr o’r cwmnïau olew’n dweud y bydd llai o fuddsoddi yn y broses o dyllu am olew ac y bydd hynny’n golygu llai o incwm i’r Llywodraeth yn y pen draw.