Sian O'Callaghan (llun heddlu)
Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o herwgipio Sian O’Callaghan, ddiflannodd ar ôl gadael clwb nos yn Swindon ddydd Sadwrn, cyhoeddodd yr heddlu heddiw.

Cyhoeddodd cadlywydd ardal Swindon, y Prif Uwch-arolygydd Steve Hedley, y newyddion ar ôl i’r heddlu ddweud yn gynharach eu bod nhw’n chwilio am dacsi.

“Mae dyn wedi arestio ar amheuaeth o herwgipio Sian O’Callaghan ac mae ar ei ffordd i orsaf yr heddlu,” meddai.

“Mae teulu Sian wedi cael gwybod.

“Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei ryddhau yn y man ond nid dyma’r amser i fi ymhelaethu.

“Hoffwn i ddiolch am gymorth y cyfryngau a’r cyhoedd. Sian a’i theulu yw ein blaenoriaeth ni ar hyn o bryd.”

Cafodd tacsi Toyota Avensis gwyrdd ei weld rhwng Swindon a Choedwig Savernake, ger Marlborough, Wiltshire, yn fuan ar ôl diflaniad Sian O Callaghan yn oriau man y bore ddydd Sadwrn.