Ed Miliband
Mae’r arweinydd Llafur wedi gwawdio’r Canghellor am gyflwyno “Cyllideb er mwyn Twf” a gorfod cydnabod yr un pryd bod twf economaidd yn arafu.

“Twf i lawr, y llynedd, eleni a’r flwyddyn nesa’,” meddai Ed Miliband. “Dyma’r un hen Dorïaid – mae’n brifo ond dyw e ddim yn gweithio.”

Roedd yn ymateb i Gyllideb pan oedd George Osborne wedi torri’r dreth danwydd a’r dreth fusnes.

Ond yn ôl Ed Miliband, roedd toriadau gwario yn niweidio’r economi a dewis y Llywodraeth oedd hynny.

Fe soniodd yn arbennig am y penderfyniad i gau’r brif swyddfa basports yng Nghasnewydd gan wawdio sylwadau honedig gan y Ceidwadwyr y byddai’r taliadau diswyddo yno’n helpu’r economi.

“Ar ba blaned y mae’r bobol yma’n byw?” meddai. “O ran twf, o ran chwyddiant, o ran diweithdra, o ran ei addewidion, doedd y Canghellor ddim yn gallu cyfadde’ bod ei ail Gyllideb yn dangos methiant ei gynta’.”