|Elizabeth Taylor, y seren ifanc
Fe fu farw’r actores Elizabeth Taylor yn 79 oed ar ôl salwch hir.

Roedd ganddi gysylltiadau agos â Chymru oherwydd ei dwy briodas gyda’r actor o Bontrhydyfen, Richard Burton.

Fe fu yn y pentre’ bach ger Port Talbot sawl gwaith ac fe arhosodd yn ffrindiau gydag aelodau o’r teulu hyd yn oed ar ôl iddi hi a’r Cymro wahanu.

Triniaeth

Fis diwethaf , roedd wedi derbyn triniaeth am broblemau’r galon a chwe wythnos yn ôl, fe aeth i Ysbyty Cedars-Sinai yn Los Angeles.

Roedd ei phlant o’i chwmpas pan fu farw, meddai Sally Morrison a oedd yn delio â chyhoeddusrwydd ar ran yr actores.

Roedd Elizabeth Taylor yn cael ei hadnabod fel un o actoresau tlysaf  ei hoes. Daeth yn enwog i ddechrau fel plentyn ac fe ymddangosodd mewn mwy na 50 o ffilmiau.

Fe enillodd wobrau Oscar am ei pherfformiadau yn Butterfield 8 a Who’s Afraid of Virginia Woolf? pan oedd yn actio gyferbyn â Burton.

Roedd Elizabeth Taylor wedi priodi wyth o weithiau i gyd. Yn ddiweddarach yn ei bywyd, daeth yn llefarydd sawl achos dyngarol gan gynnwys ymchwil Aids ac roedd yn ffrind agos i’r canwr, Michael Jackson.