George Osborne adeg ei gyllideb ddiwetha' (Gwifren PA)
Mae disgwyl y bydd y Canghellor, George Osborne, yn pwysleisio’r awydd i helpu’r economi dyfu yn ei Gyllideb heddiw.
Ond mae gwybodaeth sydd wedi ei gollwng ymlaen llaw’n awgrymu na fydd ganddo lawer o le i symud a’r tebygrwydd yw nifer o welliannau cymharol bach i roi siwgr ar bilsen y toriadau.
Fe fydd gwrando gofalus am gyhoeddiadau annisgwyl wrth i lawer o’r newidiadau tebygol gael sylw ymlaen llaw. Ac mae’r Canghellor eisoes wedi addo na fydd rhagor o doriadau neu gynnydd treth.
Un o’r prif newidiadau fydd codi’r trothwy treth yn 2012 – fe fyddai hynny’n golygu bod tua 250,000 yn llai o bobol yn talu trethi, bod 25 miliwn yn cael ychydig o help a bod y rheiny’n elwa o tua £45 y flwyddyn.
Mae disgwyl ychydig o help i yrwyr hefyd – yr awgrym yw y bydd George Osborne o leia’n dileu’r cynnydd o 1c mewn treth danwydd oedd wedi ei gynllunio gan y Llywodraeth Lafur.
Cyhoeddiadau posib eraill
Ymhlith y cyhoeddiadau tebygol eraill, mae:
- £100 miliwn ychwanegol at drwsio tyllau ffyrdd – fe fyddai Cymru’n cael tua £5 miliwn o hwnnw.
- Atal cynnydd treth i deithwyr mewn awyrennau, ond gosod yr un dreth ar awyrennau preifat.
- Arian i hybu prentisiaethau – fe fydd y Canghellor eisiau dangos ei fod yn gweithredu i hybu’r economi.
Cyn codi ar ei draed, fe fydd rhaid i George Osborne wynebu cyfres o gyhoeddiadau gwael o ran yr economi – mae chwyddiant a benthyg yn uwch na’r disgwyl a’r bore yma mae’n debyg y bydd yr amcangyfri o dwf economaidd 2011 yn dod i lawr o 2.1% i 1.8%.
Protest a rali y tu allan
Yn y cyfamser, fe fydd undeb gweision sifil ac elusen dlodi’n cynnal protest y tu allan i Dŷ’r Cyffredin. Mae’r PCS a War on Want yn dweud y dylai’r Canghellor droi’r tu min at y cyfoethogion yn hytrach na phobol gyffredin.
“Mae’n ddialgar a pheryglus i’r Canghellor wthio ein heconomi’n is fyth, mewn ras i’r gwaelod ble mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhoi yn nwylo busnesau mawr i fachu elw anferth a hawliau cyflogaeth gwerthfawr yn cael eu herydu i’w gwneud hi’n haws i bigo ar weithwyr a’u sacio,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y PCS, Mark Serwotka.