Mae cyngor Cernyw yn annog pobol i nodi eu bod nhw’n dod o dras Cernywaidd ar Gyfrifiad 2011.
Yn ôl y cyngor fe ddylai pobol yr ardal, un o’r chwe gwlad Geltaidd answyddogol, y dylen nhw nodi ‘Cernywaidd’ yn y blwch ‘Arall’ ar y cyfrifiad.
Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal ar 27 Mawrth eleni.
Dywedodd y blaid wleidyddol genedlaetholgar, Mebyon Kernow, a’r Gynghrair Geltaidd eu bod nhw’n cefnogi’r alwad.
Mae yna eisoes opsiwn i bobol nodi eu bod nhw’n Gymry, yn Wyddelod, yn Albanwyr, neu yn Saeson, yn ogystal â Phrydeinwyr.
Gwrthododd Aelodau Seneddol alwadau i gynnwys Cernyweg yn opsiwn penodol ar y cyfrifiad yn 2009.
Yn 2001, dim ond 37,000 o’r 531,100 o bobol yn y sir benderfynodd nodi eu bod nhw’n Gernywiaid.
Dywedodd y Gynghrair Geltaidd eu bod nhw’n gobeithio y byddai rhagor yn nodi eu bod nhw’n dod o dras Cernywaidd eleni.
Mae’r cyfrifiad yn digwydd bob 10 mlynedd. Mae’r papurau wedi ei ddosbarthu i tua 25 miliwn o dai. Mae hefyd yn bosib llenwi’r cyfrifiad ar-lein.