Mae’r Blaid Werdd wedi dewis ymgeisydd ar gyfer yr etholiad am Faer Llundain ym mis Mai.

Fe fydd Jenny Jones, aelod o Gynulliad Llundain ers 2000, yn herio’r Maer presennol, Boris Johnson, a fydd yn sefyll dros y Torïaid, a’i ragflaenydd Ken Livingstone, a fydd yn sefyll dros Lafur. Dyw’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim wedi dewis ymgeisydd eto.

Meddai Jenny Jones, ar ôl cael ei dewis gan aelodau ei phlaid heddiw:

“Ar adeg o doriadau llym i wasanaethau angenrheidiol, mae ar Lundain angen Maer a fydd yn creu dinas decach a lleihau’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd.

Dw i’n addo y bydd ymladd yn erbyn y toriadau i fudd-daliadau tai, i’r Gwasanaeth Iechyd ac i wasanaethau ieuenctid yn rhan allweddol o’m hymgyrch i fod yn Faer.”

Fe wasanaethodd fel Dirprwy Faer i Ken Livingstone yn 2003-04.