Fe fydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar gynnig yfory i rewi eu cyflogau am flwyddyn.

Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno cynnig yn gofyn i’r 650 o ASau gytuno ar yr un cyfradd o dâl – cyflog sylfaenol o £65,738 – ag y maen nhw wedi bod yn ei gael dros y 12 mis diwethaf.

Mae hyn yn fwy na dwbl y cyflog cyfartalog trwy Brydain.

Ond mae un AS Llafur, John Mann, wedi cyflwyno gwelliant sy’n galw am gorff annibynnol i benderfynu ar gyflogau ASau – fel sy’n digwydd yn y Cynulliad.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron yn awyddus i ASau gael eu gweld yn cael eu trin yn debyg i bobl gyffredin – gyda chyflogau llawer wedi eu rhewi.

Mae cadw cyflogau ar yr un lefel yn gyfystyr â thoriad o 4% pan mae chwyddiant yn cael ei ystyried.