Codi trothwy treth - Osborne
Codi trothwy treth incwm yw un o’r ychydig newidiadau mawr y mae disgwyl i’r Canghellor eu cyhoeddi yn y Gyllideb ddydd Mercher.

Mae’r papurau Sul yn llawn o broffwydo gan arbenigwyr wrth i George Osborne baratoi ei ail gasgliad o fesurau i geisio ymladd yr argyfwng economaidd.

Fe fydd y trothwy treth yn codi £1,000 i £7,475 ym mis Ebrill – dyna’r lefel o gyflog sydd ei angen i ddechrau talu treth incwm – a’r disgwyl yw y bydd y Canghellor yn ei godi i £8,000 ar gyfer 2012.

Fe fyddai hynny’n golygu bod miloedd yn llai o deuluoedd yn gorfod talu treth – cam tuag at nod Llywodraeth y Glymblaid o drothwy o £10,000.

Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, eisoes wedi rhoi awgrym y byddan nhw’n gweithredu ar hynny ddydd Mercher.

Uno treth ac yswiriant gwladol?

Mae’n bosib hefyd y bydd yn cyhoeddi bwriad i edrych ar y posibilrwydd o ddod â’r system dreth incwm a’r system yswiriant gwladol at ei gilydd.

Fe fydd disgwyl mawr hefyd i weld a yw’n atal treth ychwanegol o 1c ar bob litr o danwydd car – mae wedi addo gwneud ei orau i helpu gyrwyr wrth i brisiau petrol a disel godi’n gyflym.

Yn y News of the World heddiw, mae’n dweud ei fod wedi gwrando ar deuluoedd.

‘Pwyslais ar swyddi’

Fe fydd hefyd yn dadlau bod y Gyllideb yma’n symud o “achub i ddiwygio” gan roi pwyslais ar greu swyddi, yn arbennig ymhlith pobol ifanc.

Un syniad sydd eisoes wedi’i grybwyll yw defnyddio arian o’r dreth ychwanegol ar y banciau i dalu am brentisiaethau.

Mae diweithdra ymhlith pobol ifanc trwy wledydd Prydain ar ei ucha’ ers dechrau cadw cofnodion yn 1992 – ar bron 1 miliwn – ac mae Llafur wedi bod yn beirniadu’r Llywodraeth am fethu â chynllunio ar gyfer creu twf economaidd.