Arweinydd Llafur, Ed Miliband
Buddugoliaeth i Lafur yn etholiad senedd yr Alban ym mis Mai fyddai’n codi fwyaf o ofn ar y Torïaid, yn ôl arweinydd Llafur, Ed Miliband.

Wrth annerch cynhadledd wanwyn Plaid Lafur yr Alban yn Glasgow heddiw, dywedodd hefyd mai dyma yw’r cyfle gorau i rwystro llywodraeth David Cameron rhag parhau tan 2015.

 “Fûm i erioed eisiau i hon fod yn llywodraeth bum mlynedd oherwydd y difrod y bydd yn ei wneud,” meddai.

“A phan mae pobl yn gofyn imi, ‘beth ydych chi am ei wneud i wrthdroi pethau yn 2015?’ dw i’n dweud, ‘allwn ni ddim disgwyl tan hynny’.

“Felly gadewch inni ddefnyddio etholiadau senedd yr Alban i roi’r cyfle gorau inni rwystro tymor llawn.”

Dywedodd hefyd y byddai buddugoliaeth i Lafur yn rhoi llwyfan i adeiladu arno ar gyfer Prydain gyfan.

Newid cyfeiriad

“Pan fydd David Cameron yn deffro fore Gwener Mai 6, beth fydd yn gwneud iddo ailfeddwl?

“Beth fydd yn gorfodi’r newid cyfeiriad ar yr economi a gwasanaethau cyhoeddus y mae ar ein gwlad ei angen?

“A beth fydd yn peri i’r Democratiaid Rhyddfrydol sylweddoli eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad dychrynllyd?

“Yn sicr nid yr SNP. Mae’r Torïaid yn gwybod y gallan nhw gysgu’n dawel gydag Alex Salmond.

“Yr hyn y mae’r Torïaid yn ei ofni o ddifri yw llywodraeth Lafur yng Nghaeredin yn dangos y ffordd amgenach. Nid dim ond i’r Alban ond i Brydain gyfan.”