Ed Miliband

Fe fydd arweinydd y Blaid Lafur yn apelio ar i’w chefnogwyr gefnogi diwygio’r system etholiadol heddiw yn hytrach na chosbi’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg.

Fe fydd Ed Milliband yn dweud ei fod eisiau pleidlais Ie yn y refferendwm am Bleidlais Amgen (AV) yn hytrach na defnyddio’r bleidlais i ymosod ar Nick Clegg am dorri “addewidion gwag”.

Mae’n ofni y bydd Llafurwyr yn pleidleisio’n erbyn er mwyn tolcio’r glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan.

Y gred yw y gallai pleidlais ‘Na’ ar 5 Mai arwain at densiynau anferth rhwng y Torïaid a phlaid Nick Clegg, sy’n dweud bod AV yn gam at bleidleisio cyfrannol go iawn.

Touhig yn tynnu’n groes

Ond mae ffigwr amlwg o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru eisoes weddi tynnu’n groes i’w arweinydd.

Yn  ôl yr Arglwydd Touhig – y cyn AS Don Touhig – unig bwrpas y refferendwm yw cadw’r glymblaid yn Llundain at ei gilydd.

Fe ddywedodd wrth Radio Wales bod pobol yn deall y drefn fel y mae hi a bod honno, fel rheol, yn arwain at Lywodraeth gadarn, glir.

‘Ddim yn berffaith … ond’

Fe fydd Ed Miliband heddiw’n cydnabod “nad yw’r Bleidlais Amgen yn berffaith” ond y bydd yn helpu i “droi mantol grym o blaid pleidleiswyr”.

“Ar 5 Fai, gofynnwch un cwestiwn syml i chi’ch hunain,” meddai. “Ydych chi’n hapus â chyflwr gwleidyddiaeth Brydeinig? Os na yw’r ateb, mae’n rhaid manteisio ar y cyfle i newid.

“Dw i’n gwybod bod y refferendwm hwn yn llawer anoddach i’w ennill oherwydd addewidion gwag Nick Clegg. Ond, allwn ni ddim tanseilio ail refferendwm yn hanes gwleidyddol Prydain trwy ei droi yn ddedfryd ar un dyn.”

Er hyn, mae rhwyg o fewn y blaid Lafur – gyda mwy na 200 o ASau ac Arglwyddi’r blaid wedi defnyddio hysbyseb yn y Guardian i gadarnhau eu bod yn pleidleisio yn erbyn y newid.

Cyn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd, roedd Nick Clegg wedi mynnu bod rhaid cael pleidleisio cyfrannol llawn gan alw AV yn “gyfaddawd siabi”.