Yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Kenneth Clarke (yup CCA 2.0)
Fe fydd hi’n haws datgan barn neu ddatgelu materion sydd er budd y cyhoedd heb wynebu’r perygl o achos enllib os daw diwygiadau newydd i rym.

Bwriad y diwygiadau i gyfreithiau enllib, a gafodd eu cyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Kenneth Clarke, yw amddiffyn y rhai hynny sy’n ysgrifennu am faterion o fudd i’r cyhoedd.

“Mae’r hawl i siarad yn rhydd a thrafod materion heb y pryder o gael eich cosbi’n rhan allweddol o gymdeithas ddemocrataidd,” meddai Kenneth Clarke. 

 Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, fe fydd Mesur Enllib “yn sicrhau bod unrhyw un sy’n gwneud datganiad ffeithiol neu roi barn onest yn gallu’i wneud gyda hyder.”

Fe fydd yn rhaid i unrhyw ddatganiad fod wedi achosi “niwed sylweddol” cyn y gellir dod ag achos enllib, meddai.

Fe fyddai ‘gwirionedd’ a ‘barn onest’ yn cymryd lle ‘cyfiawnhad’ a ‘sylw teg’ fel amddiffyniadau mewn llys.

“Mae’r Mesur drafft yn rhoi’r gyfraith mewn iaith glir,” ychwanegodd.

Mae’r Mesur hefyd yn diddymu’r rhagdybiaeth o ddefnyddio rheithgorau mewn achosion enllib, oni bai bod achos eithriadol.

 “Dyw hi ddim yn dderbyniol niweidio enw da person heb achos deg.  Felly, fe fydd y mesur yn sicrhau bod cyfraith enllib yn parhau i gyd-bwyso gofynion y ddwy ochr ac annog canlyniad teg mewn achosion o enllib,” meddai.