Dylai senedd yr Alban gael y grym i osod lefel y dreth ar betrol, yn ôl yr SNP.

Fe ddywedodd y blaid fod gyrwyr, cludwyr a busnesau ar draws yr Alban yn ei chael hi’n anodd delio â’r ymchwydd mewn pris petrol.

Fe ddywedodd Stewart Hosie, llefarydd ar ran y trysorlys fod petrol wedi cyrraedd £7 y galwyn mewn rhai cymunedau ac y dylai Senedd yr Alban gael grymoedd i leihau’r dreth ar betrol.

Daeth y galw  wrth i’r dadleuon am bris petrol ddwysau cyn trafodaethau’r gyllideb wythnos nesaf.

Dyw Llafur ddim yn cefnogi’r cynnydd Treth Ar Werth ar betrol ac mae’r canghellor wedi awgrymu efallai na fydd y cynnydd pellach o 1p y litr yn digwydd.

Yn ôl Stewart Hosie, mae petrol yn “rheolaidd” £6.50 y galwyn ac mae cymunedau a busnesau angen cymorth.