Nick Clegg - cael ei annog i gadw'i ben yn isel
Gallai amhoblogrwydd y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg beryglu’r siawns o bleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm ar newid y dull pleidleisio ar gyfer etholiadau San Steffan.

Dyna yw rhybudd arweinydd Llafur, Ed Miliband, sy’n dweud nad yw’n fodlon rhannu llwyfan â Nick Clegg yn yr ymgyrch – er ei fod yn cefnogi pleidlais ‘Ie’.

Dywed y dylai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol gadw ei ben yn isel os oes arno eisiau ennill y bleidlais ar Fai 5.

“Beth sydd ar bobl sy’n hyrwyddo pleidlais ‘Na’ ei eisiau? Mae arnyn nhw eisiau Nick Clegg i fod yn wyneb cyhoeddus yr ymgyrch,” meddai Ed Miliband.

“Ond y peth gorau y gall Nick Clegg ei wneud os oes arno eisiau pleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm fyddai cadw o lygaid y cyhoedd am dipyn.”