Ed Balls
Mae Canghellor yr wrthblaid, Ed Balls, wedi dweud y byddai’n amhosib i’r Blaid Lafur gydweithio â Nick Clegg yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Dywedodd Ed Balls na fyddai eisiau clymbleidio â’r Dirprwy Brif Weinidog ar ôl 2015.

“Mae Nick Clegg yn wleidydd anobeithiol, gwichlyd a does ganddo ddim parch,” meddai Ed Balls. “Mae o wedi colli cefnogaeth y cyhoedd a’i blaid ei hun.

“Os ydi Clegg yn dweud rhywbeth mae pobol yn gwybod ei fod yn gelwydd. Mae angen i’r Democratiaid Rhyddfrydol ail-ystyried yn ddwys beth y maen nhw’n ei gynrychioli.”

Ond dywedodd Ed Balls na fyddai’n wfftio’r syniad o glymbleidio â’r Democratiaid Rhyddfrydol – ar yr amod nad oedd Nick Clegg wrth y llyw.

“Dydw i ddim yn gweld sut allai Nick Clegg newid cyfeiriad unwaith ato a chadw unrhyw hygrededd,” meddai.

“Fe fyddai’n amhosib gweithio gydag ef. Ond dyw hynny ddim yn wir am weddill y Democratiaid Rhyddfrydol.”

Streic

Ychwanegodd Ed Balls bod y Prif Weinidog, David Cameron yn ceisio annog yr undebau llafur i streicio, er mwyn gallu honni bod Llafur yn ceisio llusgo Prydain yn ôl i’r 1980s.

“Mae’n bwysig nad ydi Llafur yn cerdded i mewn i fagl y Ceidwadwyr,” meddai.

“Mae o eisiau i hynny ddigwydd fel ei fod yn gallu beio cyfnod anodd ar yr undebau llafur a’r Blaid Lafur.

“Ond mewn gwirionedd David Cameron a George Osborne sydd eisiau mynd a ni yn ôl i’r 80au.”