Daniel Morgan
Mae’r heddlu a chyfreithwyr wedi ymddiheuro i deulu ditectif preifat o Gymru ar ôl i dri dyn oedd wedi eu cyhuddo o’i lofruddio gael eu rhyddhau.

Daethpwyd o hyd i Daniel Morgan o Lanfrechfa, Sir Fynwy, yn farw â bwyell yn ei ben ar 10 Mawrth, 1987.

Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron heddiw i roi’r gorau i geisio erlyn y tri dyn oedd wedi eu cyhuddo o’i lofruddiaeth.

Cyfaddefodd Scotland Yard bod yr ymchwiliad cyntaf i’r llofruddiaeth yn 1987 wedi ei ddal yn ôl gan lygredd o fewn yr heddlu.

Dywedodd teulu Daniel Morgan fod y system wedi eu siomi nhw ac y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol sefydlu adolygiad barnwrol i’r hyn ddigwyddodd.

Daeth y canlyniad torcalonnus union 24 diwrnod ers marwolaeth Daniel Morgan yn nhafarn Golden Lion, Sydenham, de Llundain.

Roedd pum ymchwiliad gan yr heddlu, cwest, a tair blynedd o wrandawiadau cyfreithiol wedi costio tua £30 miliwn.

Ymddiheuro

“Ar ran Heddlu’r Met rydw i’n ymddiheuro yn ddiffuant i deulu Daniel Morgan na fydd yr achos llys yn mynd rhagddo,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Hamish Campbell.

“Mae’r ymchwiliad presennol wedi dangos nad oedd yr ymchwiliad cyntaf yn ddigon da.

“Mae’n weddol amlwg bod llygredd o fewn yr heddlu wedi dal yr achos yma yn ôl. Mae hynny’n hollol annerbyniol.

“Roedd hwn yn benderfyniad anodd ac rydyn ni’n deall y bydd teulu a ffrindiau Daniel yn siomedig iawn.”

Dywedodd brawd Daniel Morgan, Alastair Morgan, 62 oed, ei bod hi’n “amlwg bod fy mrawd ar fin datgelu’r cysylltiad rhwng yr heddlu a throseddwyr” pan gafodd ei ladd.

“Mae’n dorcalonnus. Mae fy nheulu wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau fod Daniel yn cael cyfiawnder a datgelu’r llygredd o fewn yr heddlu.”

Cafodd tri diffynnydd, cynbartner busnes Daniel Morgan, Jonathan Rees, 54, a’i frodyr yng nghyfraith Garry Vian, 50, a Glenn Vian, 52, eu rhyddhau gan Lys yr Old Bailey.

Mynnodd Jonathan Rees y tu allan i’r llys na ddylai fod wedi ei erlyn. Dywedodd nad oedd yr heddlu wedi ymchwilio i’r achos yn iawn a heb fynd ar drywydd pobol eraill oedd yn cael eu drwgdybio.

“Pan gafodd Daniel Morgan ei ladd roedd yn ergyd ofnadwy i fi ac ein busnes. Fe gollais i ffrind a phartner busnes,” meddai.

“Rydw i’n cydymdeimlo â theulu Daniel Morgan, sydd wedi eu dylanwadu gan yr heddlu i gredu anwiredd.”