Tŵr Grenfell Llun: Dominic Lipinski/PA Wire
Fe fydd gwasanaeth coffa arbennig yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan Sant Paul, Llundain, a hynny er mwyn nodi union chwe mis ers y tân yn Nhŵr Grenfell.

Fe ddechreuodd y tân yn oriau mân y bore ar Fehefin 14, a bu farw tua 80 o bobol, gyda bron i 70 yn cael eu hanafu hefyd.

Nod y gwasanaeth ar 14 Rhagfyr yw cyflwyno neges o gryfder a gobaith i’r dioddefwyr a’u teuluoedd ar gyfer y dyfodol, waeth beth yw eu cefndir crefyddol.

Mae’n debyg bod 15,000 o docynnau wedi cael eu cyflwyno am ddim i drigolion Gogledd Kensington, ac mae’r trefnwyr yn annog y gymuned leol i awgrymu unrhyw syniadau sydd ganddyn nhw ar gyfer y gwasanaeth.

Mi fydd cynrychiolwyr o wahanol grwpiau crefyddol a diwylliedig hefyd yn cael eu gwahodd mewn ymgais i iacháu’r gymuned gyda “chefnogaeth” y wlad gyfan.