Mae rheoleiddwyr yn galw ar wefannau gamblo i ddileu hysbysebion a allai apelio at blant sy’n pori’r we.

Maen nhw hefyd yn galw ar y gwefannau i ymddwyn yn gyfrifol wrth hysbysebu eu gwasanaethau, ac i ddileu hysbysebion sy’n “annerbyniol” i blant.

Yn ôl nifer o gyrff, dylid amddiffyn pobol dan 18 oed a phobol eraill mewn perygl o gael eu dylanwadu.

Mae’r gwefannau wedi cael rhybudd y gallai parhau i ddangos yr hysbysebion arwain at sancsiynau, ac mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn cefnogi’r neges honno.

‘Pryder mawr’

Dywedodd llefarydd ar eu rhan fod gamblo’n “bryder mawr” i gynghorau lle mae pobol mewn perygl o gael eu dylanwadu.

“Gall arwain at ddyledion yn mynd allan o reolaeth, gall achosi salwch iechyd meddwl a niwed i les, a gall gael effaith ar y gymdeithas – a threthdalwyr – drwy dorcyfraith ac anhrefn, tor-perthynas o fewn teuluoedd a digartrefedd.”

“Mae’n hanfodol fod plant a phobol ifanc yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag y problemau y gall gamblo eu hachosi.”