Fe enillodd y Blaid Lafur yn San Steffan bleidlais arwyddocaol yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr (nos Fercher), a hynny wrth iddyn nhw alw ar y Llywodraeth i oedi cyn gweithredu newidiadau i’r ffordd y mae pobol ar fudd-daliadau yn cael eu talu.

Fe wnaeth canlyniadau’r bleidlais ffafrio’r rheiny a oedd yn gwrthwynebu gweithredu’r cynllun yn syth o 299 o bleidleisiau i ddim, gyda’r Blaid Geidwadol yn penderfynu ymatal.

Ymhlith y rheiny a gefnogodd y cynnig oedd y Ceidwadwr, Sarah Wollastan, sy’n gadeirydd ar y Pwyllgor Iechyd.

Ac mae’n debyg fod dirprwy arweinydd y DUP, Nigel Dodd, hefyd wedi cael ei restru ymhlith y rheiny a gefnogodd y cynnig – er iddo gadarnhau wedi hynny mai camgymeriad ydoedd.

Fe wnaeth nifer o aelodau seneddol wrthwynebu’r cynllun o ddiwygiadau i’r wladwriaeth les oherwydd ei fod yn ddifygiol mewn rhai mannau, gyda’r Blaid Lafur yn honni y byddai’r newidiadau’n gwaethygu’r broblem o dlodi.

Y Ceidwadwyr methu â rheoli mwyafrif

Yn ôl yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Cysgodol, Debbie Abrahams, mi roedd y bleidlais hon yn “golled enbyd” i’r Llywodraeth, gan ddangos nad yw’r Prif Weinidog na’r Ceidwadwyr yn gallu “rheoli mwyafrif” yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Mae gan y Prif Weindiog swydd, ond ddim grym.”

Gyda’r cynnig wedi’i basio, does dim rheidrwydd cyfreithiol ar y Llywodraeth i oedi cyn gweithredu’r newidiadau’n syth, er bod rhai eisoes wedi rhybuddio’r Llywodraeth i beidio ag anwybyddu’r bleidlais.