Sean Hughes, (Llun: ei gyfrif Facebook)
Mae nifer o sêr y sin gomedi wedi bod yn rhoi teyrngedau i’r comedïwr Sean Hughes sydd wedi marw yn 51oed.

Roedd Sean Hughes yn hanu o Iwerddon, ac yn adnabyddus yn bennaf am ei waith ar raglenni comedi  Never Mind the Buzzcocks a Sean’s Show.

Daw’r newyddion am farwolaeth Sean Hughes ychydig dros wythnos wedi iddo roi neges ar Twitter yn nodi ei fod yn yr ysbyty.

“Comedïwr penigamp”

“Trist clywed am Sean Hughes,” meddai’r comedïwr Jason Manford. “Comedïwr penigamp a dyn hyfryd. Heddwch i’w lwch.”

Dywedodd y comedïwr Omid Djalili fod Sean Hughes yn “gomedïwr talentog, â llawer o gariad a pharch”, a dywedodd Jack Dee fod y newyddion yn “drist iawn.”

Ef oedd yr unigolyn ieuengaf erioed i ennill prif wobr Perrier Comedy Awards pan oedd yn 24 oed.