Mae Heddlu Llundain wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i ragor o honiadau yn erbyn y cynhyrchydd ffilmiau Hollywood, Harvey Weinstein.
Mae’r honiadau’n ymwneud ag ymosodiadau rhyw yn Llundain yn 2010, 2011 a 2015.
Cafodd Scotland Yard wybod gan Heddlu Glannau Mersi yn gynharach yr wythnos hon am honiadau o ymosodiad rhyw yn Llundain yn niwedd y 1980au.
Daeth y pedwar cyhuddiad hyd yn hyn gan ddau o bobol.
Serch hynny, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Llundain nad ydyn nhw wedi arestio Harvey Weinstein.