Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am wyntoedd o hyd at 80 milltir yr awr wrth i olion Corwynt Ophelia daro gwledydd Prydain.

Fe allai’r gwyntoedd amharu ar gyflenwad trydan rhai ardaloedd, ac mae disgwyl oedi i deithwyr a diffyg signal ffôn symudol hefyd.

Rhybudd oren sydd ar gyfer Gogledd Iwerddon, sy’n golygu bod “perygl i fywydau ac eiddo”.

Mae rhybudd melyn i rannau helaeth o Gymru, yr Alban, a gogledd, de-orllewin a chanolbarth Lloegr, ac mae rhybudd am law trwm yng Ngogledd Iwerddon a gorllewin yr Alban.

Mae rhybudd coch am wyntoedd difrifol a thywydd stormus ar gyfer siroedd Galway, Mayo, Clare, Cork a Kerry.