Yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd Llun: Stefan Rousseau/PA Wire
Fe all troseddwyr sy’n cael eu dal am yr ail waith gyda sylweddau peryglus fel asid yn eu meddiant wynebu dedfrydau o garchar o chwe mis o leiaf o hyn ymlaen.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi cynigion i fynd i’r afael ag ymosodiadau asid mewn dogfen ymgynghorol heddiw.

Bydd y rheol “dau drawiad” yn debyg i’r rheolau sy’n ymwneud â rhai sy’n cael eu collfarnu am fwy nag un drosedd o fod â chyllell yn eu meddiant.

Mae’r camau hyn yn dilyn cynnydd mawr yn y defnydd o asid peryglus mewn ymosodiadau treisgar.

Meddai’r Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd:

“Mae pob math o droseddau treisgar yn gwbl annerbyniol, a dyna pam rydym yn gweithredu i gyfyngu ar arfau ymosodol ac ar y rheini sy’n cludo asid gyda’r bwriad o wneud niwed.”

Roedd y Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i greu trosedd newydd o feddu ar sylwedd llosg mewn lle cyhoeddus heb reswm da neu gyfreithlon.