Michel Barnier, prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd
Mae Prif Drafodwr yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud na fydd trafodaethau Brexit yn symud ymlaen at eu cam nesaf – a hynny oherwydd “anghydfod” dros y gost o adael.

Mae Michel Barnier wedi datgan “nad yw’r trafodaethau yn symud yn eu blaenau’n dda” a dywed fod “anghydfod llwyr” dros y taliad Brexit sy’n ddyledus i Ewrop.

“Ar sail hyn dydw i fethu cynnig i’r Cyngor Ewropeaidd wythnos nesaf, ein bod yn dechrau’r trafodaethau am y berthynas yn y dyfodol,” meddai Michel Barnier ym Mrwsel.

Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gobeithio medru perswadio arweinwyr Ewrop yng nghynhadledd Hydref 19, bod digon o gynnydd wedi bod o ran y trafodaethau.

Mae’r sylwadau diweddaraf y Prif Drafodwr yn sicr o fod yn rhwystr i gynlluniau’r Ysgrifennydd Brexit, David Davis.

David Davis

Er ei fod yn cydnabod bod angen dod i gytundeb ar sawl mater, mae David Davis wedi mynnu bod “cynnydd sylweddol” wedi bod â’r trafodaethau ers Mehefin.

Mae hefyd yn ffyddiog bydd Ewrop a Phrydain yn sefydlu cytundeb dros hawliau dinasyddion Ewropeaidd yng ngwledydd Prydain wedi Brexit, yn fuan.