Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi wfftio honiadau Prif Weinidog Prydain, Theresa May mai’r Ceidwadwyr oedd wedi achub undod Prydain.

Daeth y sylw gan Theresa May yn ystod cynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion wrth iddi ddal llaw arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Ruth Davidson.

Ond yn ôl Nicola Sturgeon, dydy’r angen am annibyniaeth “erioed wedi bod yn fwy” nag ydyw ar drothwy Brexit.

Serch hynny, mae hi wedi gwrthod dweud unwaith eto pryd fydd ei llywodraeth yn cynnal ail refferendwm annibyniaeth yn dilyn y siom o golli yn 2014.

Fis Mehefin, dywedodd y gallai fod yn hydref 2018 cyn y byddai’r llywodraeth yn ystyried cynnal y refferendwm newydd.

Ond cyfaddefodd ar raglen Peston on Sunday ar ITV ar drothwy cynhadledd yr SNP na fyddai’r darlun ôl-Undeb Ewropeaidd yng ngwledydd Prydain yn hollol glir tan ddiwedd y flwyddyn nesaf.

Dywedodd mai gorddweud fyddai awgrymu mai’r Ceidwadwyr oedd wedi “achub yr undeb”.

“Ar fater annibyniaeth, pan ydw i’n gwylio a phan fo nifer o bobol yn gwylio’r anhrefn llwyr sy’n amgylchynu’r DU ar hyn o bryd, pan edrychwn ni ymlaen a gweld goblygiadau Brexit, y gwrthdrawiad car araf hwnnw sy’n datblygu nawr, yna dydy’r achos o blaid yr Alban yn rheoli ein tynged ein hunain, rheoli’r penderfyniadau sy’n llywio ein bywydau, erioed wedi bod yn gryfach, a dyna’r achos y bydda i’n parhau i’w gyflwyno.”

Brexit

Dywedodd Nicola Sturgeon fod ansicrwydd tros adael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu nad yw’n bosib pennu dyddiad ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth ar hyn o bryd.

“Dyna dw i wedi ei dderbyn,” meddai.

Er y siom o golli 21 o Aelodau Seneddol yn yr etholiad cyffredinol brys fis Mehefin, mae Nicola Sturgeon yn mynnu y bydd ail refferendwm yn cael ei gynnal yn y dyfodol agos.

Dywedodd fod angen i adael y Deyrnas Unedig barhau’n opsiwn, lle’r oedd 62% o bleidleiswyr wedi pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

“Dw i ddim eisiau bod yn rhan o amgylchiadau Brexit. Dw i’n credu bod yr holl beth yn drychineb a dw i’n credu mai gwaethygu fydd pethau.

“Felly dw i wedi ceisio barnu pethau gorau gallaf i ar sail yr hyn sydd orau i’r Alban.”

Dylanwad Catalwnia

Wrth gyfeirio at yr helynt yng Nghatalwnia ers y refferendwm ddydd Sul diwethaf, sy’n cael ei ystyried yn anghyfreithlon gan Sbaen, dywedodd Nicola Sturgeon mai ei gynnal yw’r “ffordd orau o wneud pethau”.

“Mae yma gynsail ac mae’n un y dylen ni fod yn ceisio edrych arno pan fyddwn ni’n edrych ar y materion hyn eto.”

Galw am gefnu ar ail refferendwm

Yn y cyfamser, mae cadeirydd etholiad cyffredinol y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban, Alex Cole-Hamilton wedi galw ar Nicola Sturgeon i roi’r gorau i’r cynlluniau am ail refferendwm annibyniaeth.

Dywedodd: “Ar ôl colli cynifer o seddi yn yr etholiad cyffredinol, dylai Nicola Sturgeon roi’r gorau i refferendwm annibyniaeth arall.

“Mae’r SNP wedi llwyfannu’r gynhadledd hon er mwyn osgoi creu embaras i Nicola Sturgeon tros golli seddi a ddigwyddod oherwydd ei bod hi’n mynnu cael ail refferendwm annibyniaeth nad oes ei eisiau ac nad oes croeso iddo.”