Mae Llywodraeth Iwerddon wedi cael ei beirniadu am fethu â chasglu gwerth 13 biliwn ewro (£11.5bn) mewn trethi gan gwmni cyfrifiadurol Apple.

Mae awdurdodau Ewropeaidd wedi cyhuddo’r wlad o ddod i gytundeb a chlosio at y cwmni.

Daeth Comisiwn Ewrop i’r casgliad flwyddyn yn ôl fod y cwmni wedi cael mantais ariannol anghyfreithlon dros fusnesau eraill drwy dalu tipyn llai o drethi.

Daeth gorchymyn gan reoleiddwyr fod rhaid ad-dalu’r arian erbyn Ionawr 3 eleni, ond does dim golwg o’r arian sy’n ddyledus.

Mae Comisiwn Ewrop hefyd wedi beirniadu cwmni Amazon ar ôl iddyn nhw gael bil treth o 250 miliwn ewro (£221m), a hynny am glosio at Lwcsembwrg a thorri rheolau’n ymwneud â derbyn cymorth gwladol.

Dywedodd comisiynydd cystadleuaeth Ewrop, Margrethe Vestager fod “rhaid i (lywodraeth) Iwerddon gasglu hyd at 13 biliwn ewro mewn cymorth gwladol anghyfreithlon gan Apple”.

Ychwanegodd fod rhaid i wledydd sy’n aelodau “wneud cynnydd digonol i adfer cystadleuaeth”. Maen nhw wedi penderfynu cyfeirio achos Iwerddon i Lys yr Undeb Ewropeaidd am fethu â chydweithredu.

Cefndir

Ar ôl tair blynedd o ymchwiliad, daeth Comisiwn Ewrop i’r casgliad fod Apple wedi talu 1% yn unig o drethi ar elw Ewropeaidd ers 2003, a 0.005% yn 2014.

Fe ddechreuodd y trefniant hwn ddechrau’r 1990au, meddai’r Comisiwn, gan feirniadu’r gweithgarwch anghyfreithlon.

Fe ddywedodd fod Apple yn talu 50 ewro mewn trethi ar bob miliwn ewro o elw yn 2014.

Ymateb Iwerddon

Mae Llywodraeth Iwerddon yn dweud eu bod nhw’n siomedig gydag ymateb Comisiwn Ewrop, sy’n “gwbwl ddi-angen”.

Maen nhw’n gwrthod derbyn asesiad Comisiwn Ewrop o’r sefyllfa, gan ychwanegu eu bod nhw’n “derbyn cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd yn llawn”.