Llun: PA
Mi fydd eithafwyr sydd yn gwylio deunydd brawychol ar-lein yn rheolaidd, yn wynebu 15 mlynedd dan glo dan gynlluniau newydd yr Ysgrifennydd Cartref.

Wrth annerch cynhadledd y Ceidwadwyr, bydd Amber Rudd yn datgan ei bod yn mynd i fynd i’r afael â gweithredoedd eithafol ar-lein trwy uwchraddio cyfreithiau gwrth-frawychol.

O dan y cynlluniau mi fydd y drosedd o feddu ar wybodaeth yn cael ei gryfhau, gan olygu y bydd gwylio deunydd brawychol yn gyfystyr â lawrlwytho a storio gwybodaeth eithafol.

Mae dadansoddiad gan y Swyddfa Gartref yn dangos bod cefnogwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi cyhoeddi bron i 67,000 o negeseuon Saesneg ar Twitter dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Grym y gyfraith”

“Dw i am sicrhau bod unigolion sydd yn gwylio deunydd brawychol ofnadwy ar-lein – gan gynnwys gwefannau jihadi, propaganda’r dde eithafol a chyfarwyddiadau creu bomiau – yn wynebu llwyr rym y gyfraith,” meddi Amber Rudd.

“Bydd y newidiadau yn galluogi’r heddlu a’r gwasanaeth diogelwch i fedru mynd i’r afael â thor-cyfraith – er gwaetha’r newid yn nefnydd y rhyngrwyd – ac i ymyrryd yn gynharach o ystyried cyflymdra radicaleiddio ar-lein.”