Corff y blismones Leanne McKie a gafodd ei ddarganfod mewn llyn yn Sir Gaer.

Daeth cadarnhad o’r newyddion y prynhawn yma yn dilyn diflaniad y cwnstabl oedd yn gweithio i Heddlu Manceinion.

Cafwyd hyd i’w chorff mewn llyn mewn parc am 3.45 fore dydd Gwener.

Roedd hi’n 39 oed ac yn fam i dri o blant.

Wrth fynegi ei gydymdeimlad â’r teulu, cadarnhaodd llefarydd ar ran yr heddlu ei bod hi’n gweithio i adran troseddau rhyw difrifol yr heddlu.

Mae dyn 43 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o’i llofruddio.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth, ond yn dweud nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall fel rhan o’r ymchwiliad.