Cyfarfod cynharach ... ond roedd gan Theresa May rybudd ynghylch Rwsia a Vladimir Putin (www.kremlin.ru CCA4.0)
Mae Theresa May yn dweud ei bod yn parhau’n “gwbl ymrwymedig” i amddiffyn Ewrop, er gwaethaf gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth siarad â milwyr o wledydd Prydain sy’n gwasanaethu dros Nato yn Estonia, dywedodd y Prif Weinidog eu bod yn barod i ymateb i unrhyw fygythiad gan Rwsia, y wlad drws nesa’.

“Rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ond, fel yr ydw i wedi dweud sawl tro, dydyn ni ddim yn gadael Ewrop felly mae’r Deyrnas Unedig yn gwbl ymrwymedig i gadw diogelwch Ewrop,” meddai.

“Mae natur dreisgar Rwsia yn berygl cynyddol i’n ffrindiau fan hyn yn Estonia, ynghyd â Latfia, Lithwania a Gwlad Pwyl, a dylai ein hymateb fod yn glir ac yn bendant.”

Dywedodd fod y milwyr dan Nato yn gallu “ymateb i unrhyw fygythiad rydych yn ei wynebu.”

Parhau i roi cymorth i Ewrop

Fe bwysleisiodd Theresa May hefyd y byddai’r Deyrnas Unedig yn parhau i roi cymorth i wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n dioddef o frawychiaeth neu drychinebau naturiol wedi Brexit.

Roedd ei geiriau yn adleisio ei haraith yn yr Eidal yr wythnos ddiwethaf pan bwysleisiodd ymrwymiad gwledydd Prydain i ddiogelwch Ewrop.

Wrth siarad yn Tapa, lle mae gan Brydain fwy nag 800 o filwyr yn arwain grŵp Nato, dywedodd Theresa May ei fod yn hanfodol bod gwledydd Ewrop yn sefyll gyda’i gilydd yn wyneb y bygythiad o Rwsia.

Bydd y Prif Weinidog yn mynd i gynhadledd ddigidol gyda’r UE ym mhrif ddinas Estonia, Tallinn, lle mae disgwyl iddi drafod y posibilrwydd o gydweithio yn erbyn ymosodiadau seibr.