Theresa May (Llun: Dominic Lipinski/PA Wire)
Fe fydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn galw ar gwmnïoedd i fynd i’r afael â phropaganda brawychol ar-lein, yn ystod cyfarfod yn Efrog Newydd heddiw (Medi 20).

Wrth annerch Cynulliad Cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig, fe fydd Theresa May yn herio cwmnïoedd ar-lein i ddatblygu technoleg er mwyn dileu deunydd o’r fath yn gyflym.

Bydd y neges yn cael ei chyfleu ar y cyd ag arweinyddion rhyngwladol eraill, ac mae’n bosib y bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i gosbi cwmnïau sydd ddim yn cydweithredu.  

Technoleg

Mae Google ac YouTube eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cynyddu’r defnydd o dechnoleg fydd yn helpu dod o hyd i fideos amhriodol.

Gwnaeth Twitter wahardd 299,649 cyfrif rhwng Ionawr 1 a Mehefin 30 eleni. Mae Facebook yn datblygu meddalwedd fydd yn medru adnabod deunydd brawychol.