Llun: PA
Cododd cyfradd chwyddiant y Deyrnas Unedig i un o’i lefelau uchaf ers pum mlynedd yn ystod y mis diwethaf, wrth i brisiau olew a dillad godi.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), cododd chwyddiant i 2.9% ym mis Awst, er bod arbenigwyr wedi darogan mai 2.8% fyddai’r ffigur.

Mae’r cynnydd diweddar yma yn dilyn deufis lle bu’r gyfradd chwyddiant yn 2.6%. Y tro diwethaf i’r gyfradd fod yn uwch oedd yn Ebrill 2012 pan oedd y gyfradd yn 3%.

Mae’r cwymp yng ngwerth y bunt ers refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, yn parhau i chwarae rôl flaenllaw o ran cynyddu prisiau, yn ôl y Swyddfa Ystadegau.

“Cynnydd cyflymach”

“Mae’r cynnydd cyflymach ym mhrisiau dillad ynghyd â chynnydd ym mhris petrol wedi cyfrannu at y cynnydd mewn chwyddiant,” meddai Pennaeth Chwyddiant yr ONS, Mike Prestwood.

“Er hynny, cafodd yr effeithiau hyn eu lleddfu gan brisiau teithiau awyr, wnaeth godi ychydig yn arafach nag y gwnaethon nhw yn ystod gwyliau’r haf y llynedd.”

Daw’r ystadegau diweddaraf ond ychydig ddyddiau cyn cyhoeddiad nesaf Banc Lloegr ynglŷn â chyfraddau chwyddiant.