Fe fydd cyngerdd arbennig ym Manceinion heno i godi arian at deuluoedd y rhai a gafodd eu heffeithio gan yr ymosodiad brawychol yn Arena y ddinas ar Fai 22.

Mae disgwyl i deuluoedd y 22 o bobol a gafodd eu lladd fod ymhlith torf o fwy na 14,000 ar ôl i’r holl docynnau gael eu gwerthu ar gyfer ailagoriad swyddogol y ganolfan.

Daw digwyddiad ‘We Are Manchester’ ar y diwrnod y mae’r ganolfan yn ail-agor yn swyddogol, dri mis ar ôl i Salman Abedi ffrwydro bom yng nghyntedd yr adeilad wrth i’r gantores Americanaidd Ariana Grande berfformio yno.

‘Anodd ac emosiynol’

Dywedodd Maer Manceinion, Andy Burnham y bydd y digwyddiad yn “anodd ac emosiynol” ond yn “ddigwyddiad pwysig fydd yn dod â phobol ynghyd i gofio’r holl bobol a gafodd eu heffeithio gan yr ymosodiad erchyll ar yr Arena”.

Ychwanegodd mai cyngerdd o’r fath yw’r “datganiad cryfaf posibl” i feirniadu’r rhai sy’n “annog casineb”.

Perfformiadau

Ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio mae’r DJ Clint Boon, a’r bardd Tony Walsh (Longfella) sydd wedi ysgrifennu teyrnged i ddinas Manceinion o’r enw This Is The Place.

Bydd y Courteeners, Blossoms, Rick Astley a band Noel Gallagher, High Flying Birds yn perfformio hefyd.

Bydd yr holl elw’n mynd at Gronfa Goffa Manceinion, sy’n cael ei gweinyddu gan Andy Burnham.

Aeth rhai o’r teuluoedd a gafodd eu heffeithio i weld yr Arena ar ei newydd wedd ddydd Iau.

Fe fydd arbenigwyr trawma a iechyd meddwl ar gael yn y lleoliad yn ystod y noson i gynnig cymorth i bobol pe bai angen.

Darlledu

Bydd y digwyddiad, sy’n dechrau am 7pm, yn cael ei ddarlledu ar orsafoedd radio BBC Radio Manchester, X-fm a Key 103.

Bydd y drysau’n agor am 5pm, ac mae disgwyl iddo ddod i ben am 11pm.