Mae gêm bêl-droed yn cael ei chynnal ar Barc Goodison y prynhawn yma er cof am Bradley Lowery.

Fe fu farw’r bachgen bach, oedd yn cefnogi Sunderland, yn chwech oed fis Gorffennaf ar ôl gwneud llu o ffrindiau yn y byd pêl-droed, gan gynnwys Jermain Defoe, ei “ffrind gorau”.

Cafodd ei wahodd i’r stadiwm yn Everton i fod yn fasgot ym mis Ionawr ar ôl i gadeirydd y clwb, Bill Kenwright ddod i wybod amdano fe.

Fe fydd yr holl elw o’r gêm heddiw rhwng Bradley’s Blues a’r Lowery Legends (3 o’r gloch) yn mynd i Sefydliad Bradley Lowery a chronfa gymunedol Everton.

Y timau

Fe fydd y timau’n cael eu rheoli gan Katie Price a chyn-reolwr Lerpwl Roy Evans, a chyn-reolwr Everton Peter Reid.

Cafodd gorymdaith ei chynnal am 12.30pm wrth i’r chwaraewyr gyrraedd y stadiwm.

Ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan yn y gêm mae’r canwr Olly Murs, sêr y rhaglen deledu Love Island, Calum Best, y canwr Shayne Ward, Josh Cuthbert o’r band Union J a llu o gyn-chwaraewyr gan gynnwys Peter Beardsley, Alan Stubbs a Graham Stuart.