Palas Buckingham (Llun: David Iliff CC-BY-SA 3.0)
Mae tua 120 o bobol wedi’u harestio y tu allan i Balas Buckingham a Phalas Kensington yn y pum mlynedd diwethaf, meddai Scotland Yard.

Mae’r ystadegyn wedi’i ryddhau o ganlyniad i gais Rhyddid Gwybodaeth gan bapur newydd The Sun.

Fe ddaeth y cais hwnnw wedi i Mohiussunnath Chowdhury gael ei arestio y tu allan i Balas Buckingham yn cario cleddyf Samwrai pedair troedfedd o hyd.

Fe gafodd y dyn 26 oed o Luton ei ddwyn i’r ddalfa wedi iddo yrru yn ei gar Toyota Prius glas yn syth at gerbyd yr heddlu ar Awst 25.

Yn ol yr heddlu, roedd wedi ymestyn am ei gleddyf gan weiddi “Allahu Akbar”.