Cyflwynwyr The Great British Bake Off, Paul Hollywood, Sandi Toksvig, Noel Fielding a Prue Leith (Llun: PA)
Mae’r gyfres deledu boblogaidd, The Great British Bake Off, yn ailgychwyn heno ond ar sianel deledu wahanol.

Daw hyn wedi i’r BBC golli’r hawliau i ddarlledu’r gyfres wrth i Channel 4 ei phrynu am £25m y llynedd.

Mi fydd y gyfres yn cael ei darlledu ar ei newydd wedd gyda’r cyflwynwyr newydd Sandi Toksvig a Noel Fielding yn cymryd lle Mel Giedroyc a Sue Perkins.

Mi fydd Paul Hollywood yn parhau i feirniadu’r gyfres, ond cyhoeddodd Mary Berry y llynedd na fyddai hi’n gadael y BBC ac, am hynny, Prue Leith fydd yn cymryd ei lle.

Arferai’r rhaglen ddenu tua 13.6 miliwn o wylwyr bob pennod y llynedd.

Y cystadleuwyr

Mae enwau’r deuddeg cystadleuydd wedi’u cyhoeddi, ond nid oes yr un cystadleuydd yn dod o Gymru eleni.

Mae’r cystadleuwyr yn cynnwys: Kate a Flo o Lannau Merswy, Peter a James o Essex, Julia o Orllewin Sussex, Chris o Fryste, Steven a Stacey o Hertfordshire, Yan a Liam o Lundain, Sophie o Surrey, a Tom o Gaeredin.