Nicola Sturgeon (Trwydded Llywodraeth Agored 1.0)
Mae prif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi cyfaddef fod y gair ‘national’ yn enw ei phlaid yn peri pryder iddi.

Dywed fod ganddi amheuon ei fod yn cyfleu’r math o genedlaetholdeb sydd wedi achosi dinistr a thrais mewn llawer rhan o’r byd.

“Mae’r gair yn anodd,” meddai, mewn trafodaeth yn ystod Gŵyl Lyfrau Ryngwladol Caeredin.

“Pe gallwn droi’r cloc yn ôl i ddyddiau sefydlu fy mhlaid, fyddwn i ddim yn dewis yr enw Scottish National Party.

“Ond byddai’n llawer rhy gymhleth newid yr enw bellach. Er bod y gair yn achosi problemau, all y mudiad dros annibyniaeth yr Alban ddim bod yn fwy gwahanol i’r hyn sy’n cael ei alw’n genedlaetholdeb mewn rhannau eraill o’r byd.”