Fe fydd pump o bobol yn ymddangos gerbron ynadon am y tro cyntaf heddiw i wynebu cyhuddiadau mewn perthynas â thrychineb Hillsborough.

Ar Ebrill 15, 1989, fe arweiniodd y trychineb gwaethaf yn hanes y byd pêl-droed yng ngwledydd Prydain at farwolaeth 96 o gefnogwyr tîm Lerpwl.

Roedden nhw’n chwarae yn erbyn Nottingham Forest yn rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr pan gawson nhw eu gwasgu i farwolaeth toc ar ôl y gic gyntaf.

Y rhai sydd wedi’u cyhuddo

Fe fydd Syr Norman Bettison, cyn-Brif Gwnstabl heddluoedd Gorllewin Swydd Efrog a Glannau Mersi, yn ymddangos gerbron ynadon yn Warrington; ynghyd â’r cyn-blismyn Donald Denton ac Alan Foster; cyn-ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday, Graham Mackrell; a chyfreithiwr y clwb, Peter Metcalf.

Mae rheolwr yr heddlu ar gyfer y gêm honno, David Duckenfield, yn wynebu 95 o gyhuddiadau o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol. Ond fydd e ddim yn cael ei gyhuddo’n ffurfiol tan bod yr Uchel Lys yn ei ryddhau o achos sifil a gafodd ei ddwyn yn 2000.

Y cyhuddiadau

Mae Norman Bettison wedi’i gyhuddo o bedwar achos o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus mewn perthynas â chelwyddau’n ymwneud â’r trychineb.

Mae Graham Mackrell, oedd hefyd yn swyddog diogelwch y clwb ar y pryd, yn wynebu dau gyhuddiad yn ymwneud â iechyd a diogelwch a thystysgrifau iechyd a diogelwch.

Mae Donald Denton, Alan Foster a Graham Metcalf yn wynebu dau gyhuddiad yr un o weithredu fel eu bod yn gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac yn bwriadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder. Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud ag addasu datganiadau’r heddlu.

Cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fis diwethaf na fyddai unrhyw un yn wynebu cyhuddiadau mewn perthynas â marwolaeth Anthony Bland, gan ei fod e wedi marw bedair blynedd yn ddiweddarach a bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn unol â’r gyfraith ar y pryd, ac nid y gyfraith bresennol.