Llun: PA
Roedd dynes 20 oed o Brydain “yn rhy ofnus” i ddianc yn dilyn honiadau iddi gael ei herwgipio yn yr Eidal fis diwethaf.

Yn ôl cyfreithiwr y ferch a weithiai fel model, sef Chloe Ayling, fe gafodd hi ei chipio fis diwethaf gan grŵp sy’n galw eu hunain yn ‘Black Death’.

Mae lle i gredu iddi gael ei chludo dan gyffur i bentref ynysig ger Turin lle cafodd ei dal am chwe diwrnod gyda’r herwgipwyr yn ceisio ei gwerthu ar y we.

Dywedodd ei chyfreithiwr, Francesco Pesce, iddi gael gwybod bod pobol yn ei gwylio ac y byddai’n cael ei lladd petai’n ceisio dianc ac, am hynny, ei bod wedi gwneud fel yr oedd hi’n cael ei gorchymyn i wneud.

Dywedodd y cyfreithiwr ar raglen Radio 4 – “cafodd hi wybod ei bod yn mynd i gael ei gwerthu i rywun o’r Dwyrain Canol am ryw.”

‘Profiad dychrynllyd’

Dywedodd llefarydd ar ran Supermodels Agency, ei hasiantaeth modelu, Phil Green, ei bod wedi mynd i’r Gonswliaeth Brydeinig yn Milan ar ôl y “profiad dychrynllyd” ac na fedrai ddychwelyd i Brydain am bron i dair wythnos.

“Cafodd pasbort Chloe ei ddal gan heddlu’r Eidal nad oedd yn gadael iddi ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig tan iddi roi tystiolaeth mewn gwrandawiad cyn yr achos ar Awst 4,” meddai.

Ymchwiliad

Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod dyn 30 oed o’r enw  Lukasz Pawel Herba o Wlad Pwyl yn wreiddiol, ond a fu’n byw ym Mhrydain, wedi’i arestio ar Orffennaf 18 ar amheuaeth o herwgipio.

Cadarnhaodd Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) y Deyrnas Unedig eu bod yn cynorthwyo gyda’r ymchwiliad.

“Cafodd tŷ yn ardal Oldbury wedi’i gysylltu â Lukasz Pawel Herba ei archwilio ar Orffennaf 18 gan swyddogion Emsou gyda chymorth gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr,” meddai datganiad yr Asiantaeth.

“Cafodd offer cyfrifiadur ei gymryd i’w archwilio’n fforensig.”