Nicola Sturgeon (Llun: Andrew Cowan/PA Wire)
Fe allai trigolion o’r Undeb Ewropeaidd fod yn ddylanwadol wrth benderfynu a fydd yr Alban yn wlad annibynnol pe bai’r refferendwm yn cael ei gynnal cyn Brexit, yn ôl academyddion.

Yn ôl papur academaidd ar gyfer Canolfan Perthnasau Ewropeaidd yr Alban, dywed Richard Marsh a Fabian Zuleeg eu bod nhw’n disgwyl i lais trigolion Ewropeaidd fod yn gryf iawn mewn ail refferendwm, ac y gallai amseru’r refferendwm fod yn allweddol i’r canlyniad.

Maen nhw’n dadlau y bydd trigolion yr Undeb Ewropeaidd yn yr Alban yn ddig ar ôl Brexit.

Cyhoeddodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon ym mis Mehefin ei bod hi’n rhoi cynlluniau ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth o’r neilltu am y tro.

Daeth ei chyhoeddiad ar ôl dweud y byddai’r refferendwm yn cael ei gynnal rhwng hydref 2018 a gwanwyn 2019.

Ond gwnaeth hi a’r SNP dro pedol ar ôl i’r blaid golli 21 o seddi yn yr etholiad cyffredinol.

Refferendwm 2014

Yn ystod y refferendwm cyntaf yn 2014, roedd hawl gan drigolion yr Undeb Ewropeaidd yn yr Alban bleidleisio, wrth i’r wlad benderfynu aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

Bryd hynny, dim ond 45% o drigolion yr Alban oedd o blaid gwlad annibynnol.

Ond mae’r academyddion yn dadlau y byddai Brexit yn golygu na fyddai hawl trigolion yr Undeb Ewropeaidd i bleidleisio yn cael ei amddiffyn pe bai’n digwydd cyn y refferendwm.

Maen nhw’n darogan y gall fod 215,000 o drigolion o’r Undeb Ewropeaidd yn yr Alban yn gymwys i bleidleisio erbyn 2020.

Pe bai’r nifer hwnnw wedi pleidleisio o blaid annibyniaeth yn 2014, fe fyddai’r Alban yn wlad annibynnol erbyn hyn, meddai’r academyddion, gan y byddai 51% o’r pleidleisiau wedi bod o blaid annibyniaeth.