Mae heddlu arfog wedi saethu dyn, ac wedi arestio dyn arall, yn dilyn digwyddiad yn Birmingham.

Mae Heddlu’r West Midlands wedi cadarnhau i’r saethu ddigwydd mewn cyfeiriad yn Frankley, a bod un dyn wedi’i gludo i’r ysbyty yn diodde’ o anaf o ganlyniad i gael ei saethu.

Yn ei ddatganiad, mae’r llu hefyd yn dweud fod “dyn arall wedi’i arestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â gynnau”.

Mae’r achos wedi’i gyflwyno i Gomisiwn Annibynol Cwynion yr Heddlu (yr IPCC).