Ben Needham Llun: PA
Mae heddlu sy’n ymchwilio i achos plentyn s ddiflannodd 26 mlynedd yn ôl, yn credu eu bod wedi darganfod gwaed dynol ar ei degan ac esgid.

Roedd Ben Needham yn 21 mis oed pan ddiflannodd ar ynys Roegaidd, Kos, ym mis Gorffennaf 1991.

Yn dilyn archwiliad o’r ynys ym mis Hydref y llynedd, daeth Heddlu De Swydd Efrog i’r casgliad bod y plentyn mwy na thebyg wedi marw o ganlyniad i ddamwain â chloddiwr.

Er yr ymchwiliad newydd, fe fethodd swyddogion i ddod o hyd i’w gorff.

Cafodd yr esgid ei darganfod yn 2012, ar safle lle bu dyn o’r enw Konstantinos Barkas yn defnyddio cloddiwr. Bu farw yn 2015 o ganser.

Bydd profion yn cael eu cynnal ar yr esgid a’r tegan er mwyn darganfod os oes olion o DNA Ben Needham arnyn nhw.

“Cynllwyn”

Mae mam y plentyn, Kerry Needham, wedi erfyn ar unrhyw un sydd a gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ac yn honni fod y gwaed ar yr esgid a’r tegan yn dystiolaeth o “gynllwyn.”

“Mae hyn yn dystiolaeth bellach o gynllwyn, oherwydd gwnaethon nhw fethu a dod o hyd i gorff Ben,” meddai Kerry Needham wrth y Daily Mirror.

“Mae hyn yn profi i mi heb os nac oni bai, y cafodd ei gorff ei symud a’i gladdu ac am ryw reswm cafodd ei gorff ei godi eto.”