Mae rhybudd tywydd melyn mewn grym ar draws rhannau helaeth o Gymru a Lloegr, gyda’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld stormydd a glaw trwm gydol y dydd heddiw (dydd Mercher).
Mae’n debyg y bydd gwerth mis o law yn disgyn mewn rhai mannau o wledydd Prydain, ac mae’n bosib y bydd rhai cartrefi yn colli eu cyflenwad pŵer oherwydd mellt a tharanau.
Mi wnaeth tywydd garw achosi llifogydd mewn pentref arfordirol Coverack yng Nghernyw ddydd Mawrth.
Cafodd dau berson eu hachub gan hofrennydd gwylwyr y glannau a chafodd 50 adeilad eu difrodi gan y llifogydd.
Yn ôl llefarydd ar ran y Cyngor lleol mi fydd peirianyddion strwythurol yn arolygu’r difrod yn y pentref ac mi fydd cyfarfod i drigolion Coverack yn cael ei gynnal heddiw.