Llun: PA
Mae heddlu a gweinidogion yn galw ar bobol Prydain i fod yn wyliadwrus o ymosodiadau brawychol wrth iddyn nhw deithio i wledydd tramor yn ystod gwyliau’r haf.

Er mwyn pwysleisio’r neges, mae fideo wedi cael ei lansio gan Heddlu Gwrth-Frawychiaeth y Deyrnas Unedig sydd yn amlinellu’r hyn y dylai pobol ei wneud yn ystod ymosodiad brawychol.

Mae’r fideo yn portreadu ymosodiad mewn gwesty ac yn annog pobol i ddianc i fan diogel os yn bosib, ac i guddio, a distewi eu ffôn os nad oes modd ffoi.

Yn ôl yr heddlu does dim awgrym y bydd twristiaid o’r Deyrnas Unedig yn cael eu targedu yn benodol yn ystod yr haf eleni.

“Gwerth gwybod”

“Mae’r tebygolrwydd o gael eich effeithio gan ddigwyddiad brawychol yn isel o hyd, ond yn anffodus rydym wedi gweld ymosodiadau yn y Deyrnas Unedig a thramor,” meddai cydlynydd yr ymgyrch, y Ditectif Prif Arolygydd, Scott Wilson.

“Rydym am i bobol feddwl am y bygythiad yn yr un ffordd ag y byddech yn trin fideo diogelwch ar awyren. Does dim disgwyliad y bydd unrhyw beth gwael yn digwydd ond mae hi’n werth gwybod beth i’w wneud os bydd argyfwng.”