Mae dyn 51 oed o Ethiopia wedi cael ei gyhuddo o gyflawni troseddau brawychol.

Mae Tadesse Kersmo wedi’i gyhuddo o fynd i le sy’n cael ei ddefnyddio i hyfforddi brawychwyr – Eritrea – ac o fod â deunydd yn ei feddiant i’w baratoi ar gyfer brawychiaeth.

Cafodd ei arestio ym maes awyr Heathrow ar Ionawr 4, ac fe ymddangosodd gerbron ynadon Westminster heddiw, lle plediodd yn ddieuog i naw o gyhuddiadau.

Yn ôl erlynwyr, roedd ganddo fe gopïau o bedair dogfen electronig yn ei feddiant ar ddau achlysur – Medi 27 y llynedd a Ionawr 4 eleni – gan gynnwys dogfen oedd wedi’i llunio gan luoedd arfog yr Unol Daleithiau ar sut i ddefnyddio dryll.

Roedd dogfen arall yn ymwneud ag egwyddorion diogelwch a chudd-wybodaeth, ac mae lle i gredu mai mudiad jihadaidd oedd wedi ei chynhyrchu. Roedd y ddwy ddogfen arall yn ymwneud ag ymladd a defnyddio cyllell.

Cafodd Tadesse Kersmo, ynghyd â’i wraig, loches yng ngwledydd Prydainyn 2009 ar ôl ffoi rhag y rhyfel yn Ethiopia. Maen nhw bellach yn byw yn Finsbury Park, ac mae e’n gweithio i gwmni Ginbot 7, sy’n gwrthwynebu llywodraeth Ethiopia.

Fe fydd yn ymddangos gerbron llys yr Old Bailey ar Orffennaf 20, ac mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth gwerth £25,000 yn y cyfamser.