Llun cyffredinol yn ymwneud a cham-drin plant
Fe ddylai’r cartref i blant yn Jersey, Haut de la Garenne gael ei ddymchwel, yn ôl adroddiad hir-ddisgwyliedig i achosion hanesyddol o gam-drin plant ar yr ynys.

Cafodd cannoedd o droseddau eu cyflawni yn y cartref dros ddegawdau cyn  ei gau yn yr 1980au.

Daeth yr argymhelliad i ddymchwel yr adeilad mewn adroddiad sy’n manylu ar hanes trasig y gamdriniaeth ar yr ynys.

Dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad,  Frances Oldham QC bod yr adeiladau yn atgof o “orffennol anhapus” i nifer o bobol.

Yn yr adroddiad, daeth yr ymchwiliad i’r casgliad bod cyfres o fethiannau wedi bod ar bob lefel o reolaeth a llywodraethiant y cartrefi plant yn Jersey am ddegawdau.

Hefyd clywodd yr ymchwiliad, sydd wedi costio £23 miliwn, bod ’na wrthwynebiad i newid a monitro safonau, a bod ’na ddiwylliant o ofn a oedd wedi atal pobol rhag datgelu beth oedd yn digwydd.

Bu’r ymchwiliad yn edrych ar y system ofal yn Jersey o ganol y 1940au ymlaen, gan glywed sut yr oedd plant wedi dioddef camdriniaeth, creulondeb emosiynol ac esgeulustod gan ofalwyr.

Roedd yr ymchwiliad hefyd wedi darganfod bod methiannau’n parhau yn y system gofal yn Jersey ac nad oedd “gwersi’r gorffennol wedi cael eu dysgu”.

Mae’r adroddiad yn gwneud wyth o argymhellion gan gynnwys penodi comisiynydd plant er mwyn sicrhau trosolwg annibynnol yn ogystal ag arolygaeth annibynnol.