Mae disgwyl i Frenhines Elizabeth dderbyn hwb ariannol gan y trethdalwr dros y flwyddyn nesaf.

Bydd y Grant Sofran – sydd yn talu costau teithio, cyflogau staff ac am waith cynnal a chadw palasau’r Frenhines – yn cynyddu gan £6 miliwn yn 2018/2019.

Mae’r Grant Sofran yn deillio o arian y dreth dalwr caiff ei gyfrannu gan y Trysorlys.

Daw’r codiad cyflog yn sgil cyhoeddiad cyfrifon Palas Buckingham, oedd yn dangos fod gwariant y Frenhines wedi cynyddu’r llynedd gan £2 miliwn i £42 miliwn.

Cynyddodd elw Ystad y Goron gan £24.7 miliwn yn 2016/2017, ac mi fydd y Frenhines yn cael cyfrannu peth o’r elw yma at ei gwariant swyddogol.

“Gwerth yr arian”

“Os edrychwch ar gost y Grant Sofran i bobol y Deyrnas Unedig y flwyddyn ddiwethaf, roedd hi gyfwerth â phris stamp dosbarth cyntaf i bob unigolyn,” meddai Ceidwad y Pwrs Cyfrin, Syr Alan Reid.

“Os yr ydych yn ystyried yr hyn mae’r Frenhines yn gwneud a’r hyn mae hi’n cynrychioli i’r wlad yma, dw i’n credu bod ni wir yn cael gwerth ein harian.”