Anna Soubry
Fe ddylai Theresa May ystyried ymddiswyddo ar ôl gambl yr etholiad brys, yn ôl cyn-weinidog Ceidwadol.

Dywedodd Anna Soubry, y cyn-Weinidog Busnes a lwyddodd i ddal ei gafael ar ei sedd yn Broxtowe, fod y Prif Weinidog bellach mewn “sefyllfa anodd iawn” – a hynny wedi “ymgyrch ofnadwy”.

Er ei bod yn credu bod Theresa May yn berson “rhyfeddol” a “thalentog”, fe wnaeth y ffocws arni yn ystod yr ymgyrch roi pwysau ychwanegol arni hi fel unigolyn yn hytrach na’r Ceidwadwyr fel plaid, yn ôl Anna Soubry.

“Mae hwn yn gyfnod gwael i’r Blaid Geidwadol”, meddai, “ac mae angen i ni ystyried pethau, ac mae angen i’n harweinydd ystyried pethau hefyd.”

Un sydd wedi galw am bwyll wrth ystyried dyfodol Theresa May yw cyn-arweinydd y Ceidwadwyr, Iain Duncan Smith.

“Camgymeriad mawr” fyddai i’r Blaid gael ei thynnu i mewn i gystadleuaeth arweinyddiaeth arall, meddai.

“Mae angen i’r blaid gwrdd, i siarad gyda [Theresa May] ac i benderfynu beth mae hi eisiau ei wneud ac os mai dyma beth mae hi eisiau, wel, i ddweud y gwir, mae angen y sicrwydd hwnnw arnom ni.”

Er hyn, ychwanegodd: “Nid yw pethau, yn sicr, ddim yn mynd i fod yr un peth.”