Rolf Harris Llun: PA
Ni fydd ail achos yn erbyn Rolf Harris ar ôl i’r erlyniad ollwng achos o ymosod yn anweddus yn ei erbyn.

Roedd y diddanwr 87 oed wedi bod gerbron Llys y Goron Southwark am yr ail waith ar gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferched yn eu harddegau yn y 1970au a’r 1980au.

Ond fe fethodd y rheithgor yn yr ail achos a dod i ddyfarniad ar bedwar cyhuddiad o ymosod yn anweddus a dywed erlynwyr na fydd ail achos yn ei erbyn.

Mae’r barnwr Deborah Taylor wedi’i gael yn ddieuog o’r pedwar cyhuddiad o ymosod yn anweddus. Roedd Rolf Harris wedi gwadu’r cyhuddiadau.

Fe adawodd carchar Stafford ar drwydded hanner ffordd drwy’r ail achos ar ôl treulio llai na thair blynedd dan glo. Cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd a naw mis o garchar ym Mehefin 2014 ar ôl ei gael yn euog o ymosod yn rhywiol ar ferched mewn achosion ar wahân.