Nicola Sturgeon, arweinydd yr SNP
Mae Prif Weinidog yr Alban wedi ymosod ar “greulondeb” a “methiant cyllidol” y blaid Geidwadol, wrth iddi annog pobol yr Alban i ddweud “digon yw digon” yn etholiad Mehefin 8.

Mae arweinydd plaid yr SNP yn dweud fod tro pedol Theresa May a’i phlai ar bolisi gofal cymdeithasol yn dangos gwendid mawr.

“Rydan ni o fewn deg diwrnod i’r etholiad,” meddai Nicola Sturgeon, “deg diwrnod sydd yn hollbwysig pan ydach chi’n meddwl am yr effaith y gallai llywodraeth Geidwadol ei chael ar wledydd Prydain, ar gartrefi, ac ar swyddi.

“Deg diwrnod pan allwn ni roi’r Ceidwadwyr dan y chwydd-wydr a cheisio gwarchod yr hyn sy’n bwysig i ni. A deg diwrnod pan fedr pobol ledled yr Alban ddweud ’digon yw digon’ wrth y Toriaid.”

Toriadau – dewis, nid rhaid

Mae yna ddewis arall i doriadau llym y Ceidwadwyr, meddai Nicola Sturgeon wedyn.

Pe bai llywodraeth San Steffan yn dymuno hynny, fe ellid rhyddhau £118bn er mwyn gwarchod gwasanaethau cyhoeddus a swyddi.

“Peidiwch a bod dan gamargraff,” meddai Nicola Sturgeon. “Dewis ydi torri fel y mae’r Ceidwadwyr yn ei wneud, nid rhiad. Mae yna ffordd arall.”