Llun: PA
Mae disgwyl y bydd cynnydd sylweddol yn nifer y bobol fydd yn cofrestru i bleidleisio heddiw wrth i’r terfyn amser ar gyfer anfon ceisiadau agosáu.

Rhaid cofrestru ar wefan y Llywodraeth cyn hanner nos heno er mwyn medru pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin.

Dros y mis diwethaf mae dros ddwy filiwn o bobol wedi cofrestru i bleidleisio gan gynnwys 700,000 o bobol dan 25 oed.

Er hyn mae’r Comisiwn Etholiadol yn rhybuddio bod saith miliwn o bobol ym Mhrydain gan gynnwys 350,000 o Gymru, o hyd heb gofrestru.

Mae’r ystadegau diweddaraf a gafodd eu cyhoeddi ym mis Mawrth yn dangos bod  45.7 miliwn o bobol yn y Deyrnas Unedig wedi cofrestru i bleidleisio ym mis Rhagfyr – cyn i’r etholiad gael ei galw.